Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(106)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol Welsh Country Foods yn Gaerwen, a’r 350 o swyddi yno.

</AI3>

<AI4>

3. Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) 

 

NDM5140 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Jocelyn Davies (Plaid Cymru).

</AI4>

<AI5>

4. Dadl ar adroddiad byr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Ddiogelu'r Arfordir yng Nghymru (60 munud) 

 

NDM5136 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i ddiogelu'r arfordir yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI5>

<AI6>

5. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Fabwysiadu (60 munud) 

 

NDM5133 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Fabwysiadu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 9 Ionawr 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI6>

<AI7>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM5134 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r llifogydd difrifol a effeithiodd ar Gymru gyfan yn 2012 a’r distryw a achoswyd mewn cymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn cydnabod gwaith ardderchog y gwasanaethau brys a chryfder yr ysbryd cymunedol wrth fynd i’r afael ag effeithiau llifogydd difrifol.

 

3. Yn cydnabod pwysigrwydd dull gweithredu ar draws portffolios i reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygu ar orlifdiroedd yn cael ei adolygu fel elfen ganolog o’r Bil Cynllunio.

 

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd y bydd y corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi ac yn rheoli’n effeithiol bob ymdrech i fynd i’r afael â llifogydd yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘ac yn mynegi gofid y bydd graddfa ac amlder digwyddiadau o’r fath yn siwr o gynyddu wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i lefelau’r môr godi’

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

‘a manteision gwybodaeth leol wrth lunio arferion rheoli tir effeithiol, i leihau nifer yr achosion o lifogydd’

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o sefydlu Fforwm Llifogydd ar gyfer Cymru.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘yn cael ei adolygu’ a rhoi yn ei le ‘fel rhan o’i pholisi cynllunio’

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘a bod Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 yn cael ei ddiwygio ar frys er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth gyfredol'

 

Mae Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd ar gael drwy’r linc a ganlyn:

 

http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan15/;jsessionid=64297ABF251B0956D3E7CB8480E448F2?skip=1&lang=cy

 

Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i drafod telerau Datganiad Egwyddorion diwygiedig ar lifogydd gyda chwmnïau yswiriant, gan fod y Datganiad Egwyddorion presennol yn dod i ben ar 30 Mehefin 2013.

 

Gellir gweld y Datganiad Egwyddorion drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://archive.defra.gov.uk/environment/flooding/documents/interim2/sop-insurance-agreement-080709.pdf

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiystyru cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r llifogydd diweddar yn Sir Ddinbych.

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r ymchwiliad annibynnol sy’n cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych i’r llifogydd diweddar a chyflwyno tystiolaeth iddo.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<AI9>

7. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5135 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):

 

Pwysigrwydd cynnal gofal newyddenedigol lefel 3 yng Ngogledd Cymru

 

Dadl yn tynnu sylw at y bygythiad i wasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 i rieni yng Ngogledd Cymru, a’r effaith bosibl ar deuluoedd a phlant yng Ngogledd Cymru.

</AI9>

<AI10>

8. Dadl Fer - gohiriwyd o 5 Rhagfyr (30 munud) 

 

NDM5113 Ken Skates (De Clwyd):

 

Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>